Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

ST 14

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi

Tystiolaeth gan : Dirprwy Brifathro

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 - Beth yw eich barn ar ba mor gyffredin yw'r defnydd o athrawon cyflenwi, wedi'i gynllunio a heb ei gynllunio?

 

Cyffredin iawn yn y ddau achos.  Heb ei gynllunio er mwyn ufyddhau gyda pholisi prin cyflenwi

 

Os ydych o'r farn bod hyn yn arwain at broblemau (er enghraifft, ar gyfer ysgolion, disgyblion neu athrawon), sut y gellir eu datrys?

 

Ydy mae hyn yn arwain at broblemau di-ri, rydyn ni’n ysgol sydd wedi llwyddo i raddau i adeiladau tim o athrawon cyflenwi gellid dibynnu arnynt i ddysgu a chadw trefn.  Serch hynny fach iawn yw’r tim ac mae’n newid yn gyson ohwrwydd mae sefydliadau eraill yn apwyntio’r bobl yma i swyddi.  Golyga hyn bod eich tim yn mynd i gynnwys bobl na fyddwch yn apwyntio i staff amser llawn yr ysgol am amryw o resymau dilys.

 

Byddai cael gwared neu addasu’r prin cyflenwi yn rhoi mwy o drefn a mwy o reolaeth.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    x

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 2 - Beth yw eich barn ar yr amgylchiadau pan ddefnyddir athrawon cyflenwi? Er enghraifft: y math o ddosbarthiadau maent yn dysgu; y math o weithgareddau dysgu sy'n digwydd dan oruchwyliaeth athrawon cyflenwi; a ydynt yn gymwys i addysgu pynciau perthnasol.

 

O dan rheolau prin cyflenwi does dim llawer o ddewis am y math o ddosbarth mae’r staff yn dysgu, wrth gwrs fe gwneir awdit boreuol er mwyn sicrhau bod pethau yn redeg yn llyfn ac er mwyn lleihau’r problemau , yn aml golyga hyn gyda dosbarthiadau heriol mae’r tim arwain sydd yn cyflenwi.

 

Prin iawn y gellid trefnu bod staff cyflenwi ag arbenigedd yn y pwnc maent yn dysgu, gosodir rheolau ar y cychwyn ee dim gemau os yn dysgu Add Gorff, (perygl damwain) dim arbrofion os mewn labordy a disgwylir i staff sydd yn gadael gwersi sicrhau bod digon o waith ystyriol ac addas i’r dysgwyr. Gellid dweud bod trefnu hyn ar gyfer ysgol o 1000 o ddysgwyr a 70 o staff yn swydd amser llawn.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Mae yna problemau, ac mae hyn yn deillio o ddiffyg ricriwtio pobl addas i’r proffesiwn.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar effaith y defnydd o athrawon cyflenwi ar ganlyniadau disgyblion (gan gynnwys unrhyw effaith ar ymddygiad disgyblion)?

 

Mae defnydio athrawon anghyfarwydd / diethr i’r ysgol a’i systemau yn cael effaith negyddol o ran disgyblaeth ac o ran ymddygiad.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Pe bai digon o arian yn yr ysgol yr ateb perffaith yw cyflogi tim (3 pherson fyddai’n delfrydol ar gyfer ysgol o 1000 o ddysgwyr – 2 os yw arian yn brin) o athrawon ifanc brwdfrydig fyddai ar gael I lenwi bylchau / cyflenwi / cynnal gwersi ymyrraeth. Byddai’r athrawon yn derbyn eu cymhwyster ANG a’r ysgol yn elwa o gael bobl sy’n dyrn I’r ysgol ac yn ran o’r systemau.  Yn anfodus does dim o’r arian gyda’r ysgol hon I wneud hynny.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    x

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     

Cwestiwn 4 - Beth yw eich barn ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon cyflenwi ac effaith bosibl y Model Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol?

 

Gweler cwestiwn 3 o dan yr amodau yna wrth gwrs byddai / dylai’r ysgol ymrwymo I’r uchod.  Os ydym yn son am athrawon sy’n cael eu cyflogi fesul diwrnod anhebyg y bydd yr uchod yn cael blaenoriaeth.

 


 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§    x

4 - Nid yw'n broblem.

 

Cwestiwn 5 - Beth yw eich barn ar drefniadau rheoli perfformiad ar gyfer athrawon cyflenwi?

 

Eto mae’n dibynnu ar yr amodau – yr un ag yr ateb I gwestiwn 4

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§    X

4 - Nid yw'n broblem.

§     

Cwestiwn 6 - A ydych o'r farn bod gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddigon o oruchwyliaeth dros y defnydd o athrawon cyflenwi?

 

Na, nid yw hyn yn rhywbeth sydd erioed wedi ei godi fel mater o gonsyrn yn y trafodaethau gyda’r sir na’r GCA.

 


 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§    x

4 - Nid yw'n broblem.

§     

Cwestiwn 7 - A ydych yn ymwybodol o unrhyw amrywiaeth leol a rhanbarthol yn y defnydd o athrawon cyflenwi? Os felly, a oes rhesymau am hynny?

 

Rwyf yn gwybod am rai siroedd sydd yn mynnu bod ysgolion yn mynd trwy asiantaethau, mae hyn yn fy nhyb i yn anfoesol oherwydd yr arian mae asianteithiau yn cymryd o dal yr athawon cyflenwi. Nid ydym yn defnyddio asianteithiau yn yr ysgol hon.  Y rheswm siwr o fod yw cyfleustra.  O ran yr athrawon mae’r asiantaeth yn danfon, nid oes rheolaeth a gall fod yn rhywun nad ydych yn dymuno defnyddio.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    x

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 8 - A oes gennych unrhyw farn ar asiantaethau cyflenwi a'u trefniadau sicrhau ansawdd?

 

Pa drefn sicrhau ansawdd – gweler fy ateb I gwestiwn 7.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    x

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     

Cwestiwn 9 - A ydych yn ymwybodol o unrhyw faterion penodol yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg? Os felly, beth ydynt?

 

Prinder staff addas i apwyntio i swyddi parhaol, prinder staff fel athrawon cyflenwi hir dymor.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Ricriwtio mwy o staff ifanc addas I’r proffesiwn.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§    x

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 10 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

 

Mae angen gwneud dysgu yn atyniadol. Dylid edrych eto ar y polisi prin cyflenwi.

 

Cwestiwn 11 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?